Aberdâr

 Green Street : Cafodd y stryd (nad yw’n bod bellach) a’r capel a saif o hyd, yr enw oherwydd iddynt fod yn ymyl hen ‘lawnt’ pentre cyn-ddiwydiannol Aberdâr (a leolid o ger eglwys ganoloesol Ioan Fedyddiwr – sy’n dal). Ar sail y Saesneg ‘village green’ (hyd y gwn) aeth y gair ‘Green’ i’r Gymraeg wrth i gyffiniau’r hen bentre’ fagu’r enw ‘Greenfach’. Yn eironig, goroesodd yr enw lled-Gymraeg hwn hyd heddiw – tra bod y lawnt a’r stryd (ond nid y capel) wedi diflannu.

Canon Street : Sylwer taw un ‘n’ sydd i fod. Nid ‘cannon’ (magnel) sy yma, ond y swydd eglwysig. Enwyd y stryd ar ôl gwr a ddaliai’r swydd yng nghadeirlan Caerloyw adeg datblygu’r stryd a’r tai cyfagos yn y 1850au: ar gaeau fu gynt yn glastir (glebeland) eglwysig ym meddiant cabidwl y gadeirlan honno. Enw torfol y strydoedd cyfagos o hyd, gyda llaw, yw ‘Maes-y-dre’ (sy’n galw i gof eu cyflwr mewn cyfnod cwbl Gymraeg ei hiaith cyn y datblygiad).

Griffith Street : Enwyd hon ar ôl Griffith Davies, aelod y teulu Davies a biau fferm Ynys-lwyd y codwyd y rhan hon o dref Aberdâr arni yng nghanol y 19G.

Monk Street : Dyma un o brif strydoedd y dre wrth iddi esgyn Mynydd y Graig (nid ‘Mynydd Maerdy’), o Aberdâr i gyfeiriad Y Maerdy ym mhen ucha’r Rhondda Fach. Mae’n hen, hen enw a’i wreiddiau’n gwbl Gymraeg. ‘Craig Rhiw’r Mynach’ oedd yr enw llawn, gwreiddiol. Cwtogwyd hwn yn Gymraeg yn ystod y 19G a’r 20G i ‘Rhiw’r Mynach’ ac mae’r enw yma’n dal yn hysbys. Cyfieithiad o ganol y 19G yw ‘Monk Street’. Byddai arddel ‘Rhiw’r Mynach’ yn gwbl addas wrth drafod capeli Calfaria, Carmel, Elim a Highland Place (heb son am yr Eglwys Gatholig) a safai ar ei hyd.

Wind Street : Er na fyddai neb yn meddwl hynny nawr (o sylwi ar ei natur gul a throellog), hon oedd y ‘stryd fawr’ wreiddiol tuag at bentre cyn-ddiwydiannol Aberdâr cyn datblygiad y Cardiff Street a’r Victoria Square (Sgwâr Fictoria) presennol o’r 1850au ymlaen. Yma y safai gynt gapeli Soar (A), Seion (W) a Bethania (MC).

Trecynon

Alma Street : Dyma safle yr Hen Dŷ Cwrdd, capel Ymneilltuol hynaf yr ardal o’i sefydlu ym 1751 (allan o gynulleidfa tua Merthyr a ddyddiai o c1650).

Mill Street : Dywedir i’r enw ‘Trecynon’ gael ei ddyfeisio gan y Parchg. William Edwards, gweinidog capel Ebeneser (A), tua’r 1870au fel enw ar yr ardal gyfan a dyfodd tua’r gogledd o Aberdâr rhwng Y Gadlys a gwaelodion Hirwaun. Cyn hynny (ac am flynyddoedd wedyn) ‘Heol-y-felin’ oedd yr enw ar yr amlod o dai a fodolai yng nghyffiniau’r hen felin a safai gynt ar lan Afon Cynon, ar waelod ffordd gul a elwid ‘heol y felin’ yn benodol o’r herwydd. Dyddia achos cynharaf y Bedyddwyr yn y cylch o’r cyfnod cyn mabwysiadu ‘Trecynon’. Dyna sut y cafodd ei alw’n ‘gapel Heol-y-Felin’ er nad oedd yn arbennig o agos at yr hen felin. Cyfieithiad o’r Gymraeg yw ‘Mill Street’. Y Gymraeg sy’n wreiddiol, heb os. Ond, erbyn heddiw, disodlodd ‘Trecynon’ y term ‘Heol-y-felin’ fel enw’r pentre ehangach (ag eithrio capel y Bedyddwyr) a disodolodd ‘Mill Street’ y Gymraeg yng nghyswllt yr union stryd a arweiniai at y felin gynt. I grynhoi, Heol-y-felin yw sail y cyfan; ond ciliodd fel enw’r pentre ac fel enw’r stryd gul a ai tuag at y felin.

Mount Pleasant Street : Codwyd hon tua’r un pryd (neu ychydig yn ddiweddarach) â thafarn gerllaw, oedd ar agor erbyn 1837. Cynhaliwyd yno’r flwyddyn honno yr eisteddfod gyntaf y gwyddom yn fanwl amdani yn ardal Aberdâr. Adwaenwyd y dafarn fel y ‘Mount Pleasant’ ac fel y ‘Bryn Hyfryd’ ar y pryd fe. Ni welais/glywais neb erioed yn cyfeirio at y stryd hon fel ‘Stryd y Bryn Hyfryd’ neu fel ‘Brynhyfryd’.

Ebenezer Street : Dyddia gapel Ebeneser (A) ar y safle hwn o 1810 (er bod yr adeilad hardd tu-fewn ac anarferol tu-fas a fu yma wedi mynd a’i ben iddo’n arw ers ei gau ryw bymtheg mlynedd yn ôl, gyda’r achos yn parhau yn yr Ysgoldy cyferbyn). Dyma hefyd, un o strydoedd hynaf (a chulaf!) hen amlod Heol-y-felin.

David Leslie Davies, Hydref 2021