• Carmel

Carmel, Nantmel

Nid yw Sir Faesyfed erioed wedi bod yn dir ffrwythlon ar gyfer eglwysi Cynulleidfaol (neu Annibynnol), gan fod yr ardal, mewn cyd-destun Anghydffurfiol, wedi bod yn gadarnle traddodiadol enwad y Bedyddwyr. Mae Eglwys Annibynnol Carmel yn ferch i’r Tabernacl, achos Cynulleidfaol sydd wedi ei hen sefydlu yn Rhaeadr Gwy, achos sy’n gallu olrhain ei darddiad yn uniongyrchol yn ôl at weinidogaeth John Hanmer, gweinidog a ddiarddelwyd o’i fywoliaeth yn dilyn Deddf Unffurfiaeth 1662. Perthynai Hanmer i gnewyllyn anghydffurfiol cynnar a gyfarfu yn rhannau uchaf Dyffryn Teifi, i’r gogledd o Lanbedr Pont Steffan  – ac ef a fu’n gyfrifol am drefnu’r cyfarfodydd cudd a gynhaliwyd yn y Neuadd-lwyd, Nantmel, rhyw bum milltir i’r dwyrain o Raeadr Gwy, yn ystod cyfnod Deddfau Cosb yr Adferiad. Yn dilyn Deddf Goddefiad 1689, trwyddedwyd achos y Tabernacl ar gyfer addoliad cyhoeddus yn Rhaeadr Gwy dan ofal un Thomas Walters, gweinidog a hanai o’r un gymuned yn Nyffryn Teifi â John Hanmer.  Yn ôl Rhestr Dr John Evans (1715) cofnodir bod ganddo 400 o bobl yn ei gynulleidfa yn Rhaeadr Gwy, a 40 o aelodau. Yn 1735, dilynodd Simon Williams Thomas Walters yn y Tabernacl, gan ychwanegu Caebach i’r hyn a barhaodd i fod, er yn ysbeidiol, yn ofalaeth ar y cyd.

Yn 1767, trawsnewidiwyd bywyd ysbrydol yr achos pan ordeiniwyd Ioan Thomas i ofalaeth Rhaeadr Gwy, Caebach a’r Garn, yr olaf yn eglwys fferm ym Mettws Disserth. Wedi ei eni a’i fagu yng nghrud y Diwygiad Methodistaidd cynnar yn ne-orllewin Cymru, cafodd Thomas ei drwytho mewn brwdfrydedd efengylaidd ym more oes. Pan oedd yn 15 oed, ymunodd â thŷ Griffith Jones Llanddowror fel gwas, gan ddysgu darllen a chymryd rhan mewn Seiadau Methodistaidd lleol. Gadawodd y de-orllewin i astudio yn Athrofa’r Annibynwyr yn y Fenni, a dilynodd y trywydd hwnnw at weinidogaeth gyda’r Annibynwyr. Serch hyn, roedd ei bregethu yn Rhaeadr Gwy yn hollol Fethodistaidd ei naws, a’i weinidogaeth yn gofiadwy am ei bregethu teithiol, arfer a oedd yn annodweddiadol o weinidogaeth sefydlog yr Hen Ymneilltuaeth. Yn wir, ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn yn y swydd i ymgymryd â theithiau pregethu hirach. Roedd yn fawr ei ddylanwad,  ac o ganlyniad, bendithiwyd enwadau anghydffurfiol yr ardal ag Ysbryd y Diwygiad o dro i dro, am gyfnod hir ar ôl ei ymadawiad.

Yn dilyn cyfres o weinidogaethau tymor byr, rhoddwyd galwad i Daniel Evans o Grugybar i ofalaeth Rhaeadr Gwy, lle y gweinidogaethodd yn llwyddiannus am bymtheg mlynedd ar hugain. Gan nad oedd yr eglwys bellach yn rhan o ofalaeth ar y cyd – erbyn hynny roedd gan eglwys Caebach ei gweinidog ei hun – dyma gychwyn ar gyfnod prin o weinidogaeth sefydlog. Parhaodd Daniel Evans y traddodiad efengylaidd, gan gynnal cyfarfodydd mewn tair fferm yn ardal Nantmel, yn debyg i’r Seiadau a gynhaliwyd gan y Methodistaidd cynnar. Y ffermydd oedd Caerfagu, Gilfach a Gelynnen, y tair ohonynt ar lannau deheuol yr Afon Dulais, i’r de o’r briffordd rhwng Penybont a Rhaeadr Gwy. Agorwyd Carmel yn 1829 i wasanaethu’r gymuned amaethyddol wasgaredig hon, ac ordeiniwyd mab Daniel Evans, Thomas Evans, yn weinidog cyntaf y capel ar 8 Mehefin 1831, yn dilyn deunaw mis o arolygu’r gwaith o godi’r adeilad. Gwasanaethodd fel gweinidog y capel weddill ei oes, sef gweinidogaeth o bron i ddeunaw mlynedd ar hugain, cyfnod tebyg i weinidogaeth hir ei dad yn Rhaeadr Gwy. Mae beddau aelodau teuluoedd Caerfagu, Gilfach a Gelynnen, sef y tair fferm a fu’n gyfrifol am sefydlu’r capel i’w gweld o hyd ym mynwent Carmel. Penodwyd diacon o deulu pob fferm i wasanaethu’r capel, ac mae’r unig gofeb y tu fewn i’r adeilad, un sylweddol ar y wal gefn yn wynebu’r pulpud, yn coffáu un ohonynt, sef David Evans, Caerfagu, ei wraig, Anne a dau o’u plant a fu farw yn eu babandod.

Roedd Daniel Evans, yn bregethwr diflino; yn 1832, sefydlodd gapel arall, Penuel yn Llanwrthwl, i’r de o Raeadr Gwy ar lannau gorllewinol yr Afon Gwy yn Sir Frycheiniog. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn dilyn marwolaeth ei dad, ychwanegwyd Penuel at ofalaeth ei fab Thomas Evans, ac o ganlyniad, symudodd i fyw i Lanwrthwl yn agos at Ffermdy’r Dyffryn, y fferm deuluol. Mae’n ymddangos mai’r cyfan o addysg a dderbyniodd oedd tymor yn yr ysgol ramadeg a oedd yn gysylltiedig ag Athrofa’r Annibynwyr yn y Drenewydd, yn dilyn marwolaeth ddisymwth Ann, ei wraig gyntaf. Gyda naw o blant o’i briodas â’i ail wraig Charlotte, treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel gweinidog mewn amgylchiadau ariannol cyfyng iawn.

Yn ôl ei ymateb i Gyfrifiad 1851, amcangyfrifodd Thomas Evans fod lle i 151 o bobl eistedd yng nghapel Carmel, gyda lle ychwanegol ar gyfer hanner cant yn sefyll. Cofnodwyd bod nifer y gynulleidfa mewn gwasanaeth prynhawn ar ddiwrnod o dywydd teg yn wythdeg; ar ddiwrnod y cyfrifiad ei hun, a ddisgrifiwyd fel dydd Sul ‘hwyliog’ ym mis Mawrth 1851, cofnodwyd 66 o bobl yn ystod gwasanaeth y bore a 35 gyda’r nos, gyda phlant (‘efrydwyr’) hefyd yn bresennol.

Bu farw Thomas Evans yn 73 oed ar 21 Chwefror 1869, ar ôl dioddef o’r gymalwst (gout). Melys oedd y cof amdano, yn fwy am ei ddawn bugeiliol na’i bregethu huawdl, ac fe’i claddwyd ym mynwent Capel Penuel yn ystod gaeaf 1869 wrth ochr ei ail wraig Charlotte, a fu farw o’i flaen yn 1860. O hynny ymlaen, daeth Carmel o dan ofal bugeiliol gweinidogion Penuel, yn dechrau gyda John Wyndham Jones, Pontypridd. Ffynnodd y gynulleidfa fechan yn ystod y cyfnod hwn, gan fagu enw arbennig am ragoriaeth ei chanu cynulleidfaol, dan arweiniad David Evans, Court Gwyn, sef tŷ nepell o’r capel. Adferwyd yr adeilad yn 1881 a chynhaliwyd Gŵyl Bregethu i ddathlu cwblhau’r gwaith. Roedd y pregethwyr gwadd yn ddau o hoelion wyth yr enwad, sef Dr Thomas Rees, hanesydd digyffelyb yr Annibynwyr Cymraeg, a gweinidog poblogaidd capel cyfagos Caebach a’ thynnwr tyrfaoedd, sef Kilsby Jones. Ganrif yn ddiweddarach, roedd capeli llawn yn atgof o’r gorffennol ac yn 2017, trosglwyddwyd Carmel, adeilad rhestredig Gradd II* i ofal Addoldai Cymru.

David Barnes, Calan Gaeaf, 2020

Dogfan Restru