• Take the Bethania Virtual Tour

Bethania, Maesteg

Capel Bethania 1858

Yn ystod blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, gwelwyd twf sylweddol mewn diwydiannu mawr yng Nghymru. Llanwyd cymoedd y De â gweithfeydd haearn a phyllau glo, ac aeth y trefoli cynyddol hwn ymlaen ymhell i ganol y ganrif. Mae’r achos ym Methania, Mam Eglwys y Bedyddwyr yng nghwm Llynfi, yn dyddio o’r adeg y daeth y Parch. Thomas Hopkin i Faesteg o Hirwaun yn 1828, i wasanaethu cymuned fechan ond cynyddol o Fedyddwyr a oedd yn gysylltiedig â’r gwaith haearn newydd. Roedd yn hanu’n wreiddiol o’r Gelli Gandryll ac oherwydd hyn, mae Bedyddwyr Maesteg yn gallu olrhain eu hachau i eglwys bellennig Bedyddwyr dyffryn Olchon ar y ffin rhwng Swydd Henffordd a Mynwy, yn hytrach nag eglwys John Miles yn Llanilltud Gŵyr. Yn weinidog ym Methania am 17 o flynyddoedd, yn 1832, goruchwyliodd y Parch. Hopkin y gwaith o adeiladu’r capel cyntaf ar y safle presennol gan Mr Hurley o Faesteg ar gost o £60. Capel talcen hir fyddai hwn, yn wahanol i eglwysi Anglicanaidd yn ei symlrwydd diymffrost a’i bulpud canolog. Y Parch. Hopkin oedd wrth y llyw hefyd pan ehangwyd y capel yn 1840-41, mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd a oedd yn ei fynychu. Mae wedi’i gladdu ym mynwent Llangynwyd, lle mae wedi’i goffáu gan englyn gwych gan un o’i olynwyr, y Parch. Richard Hughes.

Sefydlwyd y Parch. H. W. Hughes (Arwystl) yn weinidog ar y capel yn fuan wedi ei ehangu yn 1848. Bu raid iddo dreulio llawer o amser ac ynni dros y blynyddoedd dilynol ar deithiau pregethu er mwyn talu’r ddyled am y gwaith ailadeiladu, ac aeth o Faesteg i ofalu am gynulleidfa yn Lerpwl yn 1851. Y flwyddyn honno, cofnododd y Cyfrifiad Crefyddol fod 700 o bobl wedi bod yn bresennol yng ngwasanaeth yr hwyr ar nos Sul “lawn miri” ddiwedd mis Mawrth, ac roedd yr adeilad erbyn hyn yn ganolfan ddiwylliannol fyrlymus a gynhaliai ddigwyddiadau cymdeithasol a chymunedol, gwyliau ac eisteddfodau. Yn ddiddorol, yn un o’r eisteddfodau hyn yn y cyfnod hwn cafwyd darlith dan y pennawd ‘Ffeithiau daearegol a gwirioneddau’r Beibl: a ydynt yn gwrth-ddweud ei gilydd?’

Olynwyd y Parch. H. W. Hughes gan y Parch. Richard Hughes (1820-1885), a gafodd ei fedyddio yn afon Llynfi yn ugain oed gan y Parch. Thomas Hopkin. Digwyddodd y bedydd ym mis Tachwedd! Dan weinidogaeth y Parch. Richard Hughes, gwelwyd ehangu mawr ar y capel gydag ailadeiladu’n dilyn ailadeiladu: un tro yn gysylltiedig â Diwygiad 1859, a thrachefn yn 1878. Daeth dathliadau’r Sulgwyn a gwyliau pregethu’n nodweddion sefydlog yng nghalendr y capel yn y cyfnod hwn, ynghyd â pherfformiadau corawl a dramatig. Cyhoeddwyd cyfrol o bregethau’r gweinidog dan enw’r capel, ‘Pwlpud Bethania’. Mae’r Parch. R. Hughes wedi’i gladdu ym mynwent y capel.

Daeth y Parch. Edward Jones (Iorwerth Ddu) (1852-1931) i Faesteg o Droedyrhiw yn 1894. Ddeng mlynedd wedi iddo gyrraedd, traflyncwyd Cymru gan y Diwygiad a gysylltid â phregethu Evan Roberts. Yn yr un flwyddyn honno, 1904, bedyddiwyd 158 o aelodau newydd ym Methania; yn ystod ugain mlynedd cyntaf gweinidogaeth y Parch. Edward Jones cafwyd 651 bedydd yn y capel. Yn yr awyrgylch diwygiadol hwn y comisiynwyd Syr William Beddoe Rees, pensaer yng Nghaerdydd a anwyd ym Maesteg, i ddylunio’r capel presennol. Yn costio £6,000 i’w adeiladu ar y pryd, mae’n cael ei gydnabod yn un o’i brif gampweithiau.

Y Parch. Iorwerth Ddu

Mae cynllun Rees yn yr arddull Clasurol Beaux Arts gyda chynllun mynedfa dalcen. Mae tri rhaniad yn y ffasâd, pob un wedi’i ddiffinio gan bilastrau a tharian addurnol ar ben pob un. Mae’r bae canol llydan yn cynnwys porth mynediad rhwng dwy ffenestr gron fawr ag addurniadau chwarterol. Uwchben, ar y naill ochr a’r llall i ffenestr fawr, petryalog, 80 cwarel, mae colofn Ïonig a ffenestr lai 32 cwarel. Mae drysau yn y rhaniadau ochr hefyd, dan ffenestri 32 cwarel wedi’u gosod mewn amgylchynau â phedimentau hanner cylch chwyddedig. Ceir ffenestr dalcen hanner cylch yn y rhan ganol yn gorffwys ar y goruwchadail sy’n dwyn y geiriau ‘CAPEL Y BEDYDDWYR 1908 NEILLDUOL’. Mae gan y baeau ochr bedimentau ysgwyddog ac mae’r ffasâd cyfan wedi’i orffen ag yrnau uwchben y pilastrau a charreg gerfiedig wedi’i gosod ar frig y talcen. Ailadroddir manylion y rhaniad ochr yn y rhaniad cyntaf ar yr ochrolwg, a cheir dwy res o ffenestri plaen ar weddill rhaniadau’r ochrolwg

Y tu mewn ceir seddau i 1001. Mae cyntedd wedi’i wahanu oddi wrth y prif gapel gan sgrin â phaneli gwydr lliw. Ar y naill ochr a’r llall ceir mynediad at risiau agored i’r galeri. Ym mhrif gorff y capel, mae galeri’n rhedeg o amgylch y pedair ochr, ac mae’r ochr ôl wedi’i llenwi i raddau helaeth gan yr organ, sydd wedi’i gosod yn rhannol mewn cilfach grwn-fwaog. Mae’r galeri’n gorffwys ar golofnau haearn bwrw sydd, ar yr ochrau, yn parhau at arcêd o chwe bwa crwn cain sy’n atgoffa rhywun o Gapel Seion Richard Owens yn Aberystwyth. Mae blaen y galeri o haearn bwrw a phaneli palmedau addurnol. Mae’r pulpud wedi’i osod o flaen oriel yr organ ar ffurf rostrwm dyrchafedig ag adran ganol ymestynnol wedi’i dal ar bedestal unigol, yr eir iddo i fyny grisiau ar y naill ochr a’r llall. Mae’r Sedd Fawr yn y blaen wedi’i chau i mewn gan reilin â phanelau haearn bwrw tebyg i rai’r galeri, a’r rheilin blaen yn crymu tuag allan. Ynghudd o dan y Sedd Fawr mae bedyddfa sylweddol sy’n dal mewn cyflwr gweithio da. Mae’r seddi ar ffurf meinciau plaen ar y llawr gwaelod ac wedi’u rhannu’n dri bloc gan y ddwy eil, ac yn grwm i gydredeg â llinell y Sedd Fawr. Mae rhanwyr canolog igam-ogam yn y bloc canolog. Yn y galeri mae’r seddi’n crymu o gwmpas y corneli ond fel arall maent yn syth. Agorwyd y capel ar ei newydd wedd ar 28 Mawrth 1908, gyda phum diwrnod o gyfarfodydd pregethu.

Mae Bethania’n adeilad Rhestredig Gradd II* gan ei fod yn un o’r gorchestion pensaernïol gorau sydd wedi goroesi gan bensaer capeli mawr yn ei arddull Beaux Arts grymus

Ym mis Medi 1925, ymgynullodd Undeb y Bedyddwyr yn y capel newydd, dan Lywyddiaeth y gweinidog hir ei wasanaeth. Roedd hanes yr achos wedi’i gyhoeddi ar gyfer yr achlysur gan Samuel Davies, cadeirydd y pwyllgor hanes. Ysgrifennydd y pwyllgor oedd y Dr Tom Richards, hanesydd Piwritaniaeth Gymreig ac athro hanes yr ysgol uwchradd leol ar y pryd. Heidiodd Bedyddwyr o bob rhan o Gymru ar fws a thrên i gyfarfod yr Undeb ym Maesteg. O Gadair yr Undeb, craffai “Ior Ddu” yn wyliadwrus ar helyntion gwleidyddol a chymdeithasol y dydd.

Yr union gyffro a gyfrannodd at Ddiwygiad 1904 a fyddai, yn baradocsaidd, yn sicrhau’r dirywiad yn y niferoedd a fynychai’r capel, dirywiad a gynyddodd yn y blynyddoedd wedi’r Rhyfel Mawr a gymerodd fywydau cymaint o’i aelodau. Wrth i aelodaeth Bethania grebachu’n raddol, ac yn gynt yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, y canlyniad oedd cau’r capel yn 2004.

Unodd y gynulleidfa â chynulleidfa Capel Carmel gerllaw, a throsglwyddwyd Bethania i’r Ymddiriedolaeth yn 2006, dan ei statws fel elusen ragnodedig dan Ddeddf Eglwysi ac Addoldai Eraill Gwag 1969 (fel y’i diwygiwyd yn Atodlen 5 Deddf Elusennau 1992).

Darllenwch fwy am y gwaith hyd yma
Archif Bethania
Darllenwch fwy am y Bedyddwyr 
 

Gwybodaeth Bellach

Dogfen Restru

Dogfen Restru Bethania
 

Archaeological Building Investigation and Recording, Level 3 Historic Building Record, Report compiled by C.R Archaeology

Bethania Building Record pages 1-39
Bethania Building Record Plate 1-122
Bethania Building Record  Beddoe Rees Drawings
Bethania Building Record pages 63-97
 

Datganiad Cadwraeth Bethania, Neil Sumner 2013

Datganaid Cadwraeth Bethania

Darllen Pellach

Hywel Teifi Edwards (gol.), Llynfi ac Afan, Garw ac Ogwr (Llandysul, 1998).
Brinley Richards, History of the Llynfi Valley (Pen-y-bont ar Ogwr, 2008)
Geraint H. Jenkins, ‘Doc Tom’ Thomas Richards (Caerdydd, 1999)
The Journal of Welsh Religious History, Cyfres newydd, Cyfrol 4; 2004

 
 
 
 

Gadael ateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.

Cewch ddefnyddio'r tagiau a'r priodoleddau HTML yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

File:

File:

File:

Animeiddio